Dewi Sant a radicaliaeth Gristnogol

September 3, 2010

Cyngor Dewi Sant i Gristnogion Cymru oedd y dylent wneud y ‘pethau bychain’. Cyngor da? Oedd, siŵr o fod gan fod gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim a bod gwneud llawer o bethau bach yn gallu arwain at newid mawr. Dyna gymhelliad Pethau Bychain hefyd, wrth iddynt annog cynifer ag sy’n bosibl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar-lein.

Roedd Dewi, wrth gwrs, yn ffigwr hynod o radical yn ei ddydd - mynach yn byw bywyd cwbl asgetig a syml a’i unig nod oedd rhannu’r newydd da am y bywyd yn Iesu. Mae ei ddyddiadau yn cyd-fynd a’r cyfnod hwnnw mewn hanes pryd y ffurfiwyd Cymru fel cenedl ar wahân (canol y 6ed ganrif) ond serch hynny prin fod unrhyw dystiolaeth yn bodoli i’w osod fel ffigwr gwlediyddol genedlaetholgar. Erbyn y 10fed ganrif, fodd bynnag, roedd hynny wedi newid a cheir darlun ohonno yn y gerdd Armes Prydein Vawr fel arweinydd ei bobl fyddai’n trechu Lloegr: ‘A lluman glân Dewi a ddyrchafant’. Byth ers hynny daeth y mynach syml yn fwy o symbol gwleidyddol i Gymru na symbol Cristnogol ac o’i droi yn ffigwr wleidyddol, felly, fe ddad-radicaliwyd Dewi Sant mewn termau ffydd a chrefydd.

Ac onid dyna hanes y grefydd Gristnogol byth ers hynny? Daeth mudiadau radical Cristnogol yn sefydliadau gwan ac ufudd i’r drefn. Penllanw’r datblygiad torcalonnus hwn oedd ymateb yr enwadau ymneilltuol i’r Rhyfel Byd Cyntaf wrth iddynt hepgor eu heddychiaeth a dilyn drwm Lloyd George i’r gâd.

Mae’n amser darganfod radicaliaeth Gristnogol newydd yng Nghymru o’r newydd; un fydd yn herio pob sefydliad yn ein gwlad ac yn galw Cymru eto i ddilyn gwerthoedd pen-ucha’n-isa Iesu Grist.

 

Plaid Cymru a'r mesur iaith

July 22, 2010

Mae gwefan Cymdeithas yr Iaith yn sgrechian yn o uchel heddiw wrth i bwyllgor annibynnol o ACau alw am gryfhau’r mesur iaith sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Cewch ddarllen adroddiad y pwyllgor hwnnw yma. Mae’n glamp o ddogfen ac yn glamp o slap i’r Llywodraeth hefyd, siŵr o fod.

Fydd hyn yn troi’n ffrae arall rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar f...


Continue reading...
 

Cristnogaeth 21

July 19, 2010

Daeth botwm newydd i wefan Cristnogaeth 21. Rydach chi’n siŵr o fod yn gwybod pwy a beth yw’r wefan honno a phwy y mae’n ei chynrychioli - y bobl ryddfrydol yma sy’n mynnu nad ydan ni’n gallu dweud dim pendant am ddim yn ein ffydd. Aeth fy nghyn fentor academaidd, Densil Morgan, i’r afael a hwy sbel yn ôl a’u cyhuddo o danseilio egwyddorion sylfaenol y ffydd. ‘Don’t hold back, Dens,’ meddai fi wrthyf fy ...


Continue reading...
 

Hunaniaeth hyderus y Cymry?

July 16, 2010

Chlywais ddim am y dyn cyn darllen Blog Vaughn Roderick ddoe, ond mae’n debyg mai pennaeth Amgueddfa Cymru yw Michael Houlihan. Ond ar ei hôl hi ydw i eto gan fod Mr Houlihan yn ein gadael i fynd am Seland Newydd. Mae’n rhaid ein bod ni wedi pechu’r dyn yn o ddrwg iddo deithio mor bell i weld ein cefn ni!

Ta waeth, cyflwynodd ddadansoddiad diddorol o gyflwr y genedl yn ei araith ymadawol. Gwneud hyn yng nghyd-destun...


Continue reading...
 

Y Tad David Morris, Merthyr

July 15, 2010

Treuliais bedair blynedd fel warden un o neuaddau preswyl Prifysgol Bangor a chefais y cyfle i ddysgu ychydig yn yr Ysgol Ddiwinyddol hefyd (honno sydd ar fin cau). Yn ystod y cyfnod byr hwnnw aeth tua 500 o oedolion ieuanc trwy fy nwylo a’m gobaith ar gychwyn y gwaith oedd y cawn ryw fath o ddylanwad arnynt.

Braf oedd darllen yr hanesyn hwn, felly, ar wefan y BBC. Daeth David Morris yn fyfyriwr diwinyddol ym ...


Continue reading...
 
Custom Search
 
Make a Free Website with Yola.