Alcohol a'r enaid clwyfus
Cafodd y mudiad dirwest ddylanwad mawr ar Gymru yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mudiad Americanaidd ydoedd yn ei wreiddiau ond cafodd groeso twymgalon yng Nghymru am fod yma gred eithaf sicr fod gan y Cymry broblem efo’r ddiod gadarn. Trwy waith diflino sawl gweinidog ymneilltuol tyfodd y mudiad yn rym cymdeithasol erbyn diwedd y ganrif gan ddod yn rhan annatod o ddiwylliant y genedl. Yn wir, wrth i’r pwyslais ar ddirwest droi’n ofyniad am lwyrymwrthod, daeth y mater yn gwestiwn o gydwybod ac yn amod aelodaeth ambell i gapel.
Ni wn am unrhyw waith ymchwil a brofodd fod y pwyslais hwn ar ddrygioni alcohol wedi bod yn hwb i dranc araf ymneilltuaeth yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, ond synnwn i fawr nad ydoedd yn un styllen yn yr olwyn. Ers yr 1960au, fodd bynnag, clywyd llai a llai o sylw ar ddirwest yn y capeli. Yn wir, nid oes gennyf bron ddim cof i gwestiwn y ddiod fod yn bwnc trafod unrhyw bregeth na dosbarth ysgol Sul pan oeddwn i’n blentyn yn y saithdegau. Cododd ei ben yn ystod y refferenda bob deg mlynedd ar gwestiwn agor tafarndai ar y Sul, ond fel arall prin iawn fu’r son amdano. Serch hynny mae yna ryw ran bach ohonof sydd yn dal i deimlo’n euog pan fyddaf mewn tafarn - fel petai rhyw adlais o’r gorffennol pell yn dal i alw.
A finnau’n meddwl, felly, fod alcohol wedi diflannu fel pwnc i’n poeni ni’r Cymry, dyma glamp o ddadl yn codi ynghylch penderfyniad yr Urdd i ganiatáu ei werthu ar faes yr Eisteddfod, a neb llai nag Undeb parchus yr Annibynwyr ar flaen y gad yn erbyn y peth. Y blogiau Cymraeg a dynnodd fy sylw gyntaf at y ddadl hon. Mae mam a mab, Siân Tir Du a Guto Dafydd, yn blogian am y peth ac yn dyn ar eu cwt y mae Rhys Llwyd. Trwyddynt hwy y cefais wybod fod Wynford Ellis Owen ar ran y Cyngor Alcohol ac Alun Lenny ar ran yr Annibynnwyr - dau sy’n gaeth i alcohol ond sydd ar hyn o bryd yn sych - yn parhau a’u hymgyrch i geisio gwyrdroi’r penderfyniad.
Edrych ar y ddadl o’r ochr ddiwinyddol a wnaeth Rhys Llwyd hyd yma. Iddo ef mae dadleuon Owen a Lenny (sy’n Gristnogion argyhoeddedig mae’n debyg) yn sawru o iachawdwriaeth drwy weithredoedd yn hytrach na thrwy ffydd. A dyna ni yng nghanol dadl arall a fu’n cadw’r Cymry capelgar yn gynnes ar nosweithiau oer y seiat. Ni chlywais gyfraniadau Owen na Lenny i’r ddadl ar Radio Cymru felly ni allaf gynnig barn ai dyna eu bai ai peidio. Ond o ddod a’r ddadl i faes diwinyddol ac i faes cyfiawnhad yn benodol, awgrym Rhys ydyw mai problem pechod ydyw problem gor-yfed neu fod yn gaeth i alcohol. Yn wir, dywed yn blwmp ac yn blaen mai problem ysbrydol ydyw.
Ac ar y mater hwn yr hoffwn i wneud cyfraniad. Er y gall cam-ddefnyddio alcohol fod yn bechod, ac felly’n broblem yr ysbryd dynol, nid dyna yn unig ydyw. Mae’n broblem yr enaid yn ogystal, neu friwiau yr enaid yn fwy penodol. Credaf fod y mwyafrif o bobl sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol yn cychwyn cam-ddefnyddio er mwyn delio a rhyw boen yn eu bywyd. (Nid oes ystadegau gennyf i brofi’r pwynt ond credaf eu bod yn bodoli.) Yn amlach na pheidio mae a wnelo’r boen honno rhywbeth ag elfen o gamdriniaeth yn eu plentyndod - boed hwnnw’n gamdriniaeth rhywiol, corfforol, neu emosiynol.
Pan ddaw’r person sy’n gaeth i alcohol i ffydd yn Iesu gellid ei weld yn dod yn rhydd o’i gaethiwed os mai pechod yn unig yw ei broblem. Ond os yw’n cam-ddefnyddio er mwyn delio a’i boen mewnol ni fydd dod yn Gristion ynddo’i hun yn ddigonol. Bydd rhaid iddo (neu iddi hi, wrth gwrs) dderbyn iachâd penodol i’r enaid clwyfus. Unwaith y caiff yr iachâd hwnnw bydd yr angen am rywbeth i leddfu’r boen wedi mynd, ac felly gall roi’r gorau i yfed.
Dewch inni droi at Gymru rŵan - at y genedl fel petai. Dilynodd yr enwadau anghydffurfiol y mudiad dirwest am iddynt weld yn glir fod problem yn y tir. Eu hateb oedd yn gyntaf tröedigaeth at ffydd ac yna ymdrech galed i lwyrymwrthod. I gael y maen i’r wal ar yr ail bwynt daeth codi euogrwydd yn arf yn eu dwylo. Anffodus iawn oedd hyn a hynod wrthgynhyrchiol. Mae enaid Cymru yn glwyfus, ac angen iachâd sydd arni nid anogaeth i hunanddisgyblaeth.
In : Anghydffurfiaeth
Tags: capeli alcohol eisteddfod dirwest
blog comments powered by Disqus