Showing category "Gwleidyddiaeth" (Show all posts)

Plaid Cymru a'r mesur iaith

Posted by Dyfed on Thursday, July 22, 2010, In : Gwleidyddiaeth 

Mae gwefan Cymdeithas yr Iaith yn sgrechian yn o uchel heddiw wrth i bwyllgor annibynnol o ACau alw am gryfhau’r mesur iaith sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Cewch ddarllen adroddiad y pwyllgor hwnnw yma. Mae’n glamp o ddogfen ac yn glamp o slap i’r Llywodraeth hefyd, siŵr o fod.

Fydd hyn yn troi’n ffrae arall rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar f...


Continue reading ...
 

Hunaniaeth hyderus y Cymry?

Posted by Dyfed on Friday, July 16, 2010, In : Gwleidyddiaeth 

Chlywais ddim am y dyn cyn darllen Blog Vaughn Roderick ddoe, ond mae’n debyg mai pennaeth Amgueddfa Cymru yw Michael Houlihan. Ond ar ei hôl hi ydw i eto gan fod Mr Houlihan yn ein gadael i fynd am Seland Newydd. Mae’n rhaid ein bod ni wedi pechu’r dyn yn o ddrwg iddo deithio mor bell i weld ein cefn ni!

Ta waeth, cyflwynodd ddadansoddiad diddorol o gyflwr y genedl yn ei araith ymadawol. Gwneud hyn yng nghyd-destun...


Continue reading ...
 

Keith Best

Posted by Dyfed on Wednesday, July 14, 2010, In : Gwleidyddiaeth 

Mewn ymarferiad drama yn y Gadeirlan ym Mangor oeddwn i pan glywais i’r newydd am Keith Best. Ar y pryd roedd yn aelod seneddol Môn ac yn ffigwr poblogaidd ar yr ynys er gwaethaf y ffaith mai Tori ydoedd. Ond syrthio oddi wrth ras oedd ei hanes a chafodd ei garcharu am brynu mwy na’i siâr o siârs BT.

Bellach mae Best yn gweithio i elusennau dyngarol ac yn gwneud gwaith da - gwell gwaith na bod yn AS o bos...


Continue reading ...
 

'Bradwr!' - y dicter Cymreig.

Posted by Dyfed on Wednesday, May 26, 2010, In : Gwleidyddiaeth 

Mae clamp o ffrae yn datblygu rhwng rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a rhai o Gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Cau ysgol leiaf y sir yw asgwrn y gynnen - ysgol pentref y Parc ger y Bala - gyda’r Gymdeithas yn dadlau y byddai cau yn gwneud cam â’r iaith yn y pentref, a’r Cyngor o’r farn y byddai adrefnu addysg yr ardal yn sicrhau ei dyfodol. Pwy sy’n gywir? Pwy a ŵyr! Ond tebyg yw iâ...


Continue reading ...
 
 
Custom Search
 
Make a Free Website with Yola.