Daeth botwm newydd i wefan
Cristnogaeth 21. Rydach chi’n siŵr o fod yn gwybod pwy a beth yw’r wefan honno
a phwy y mae’n ei chynrychioli - y bobl ryddfrydol yma sy’n mynnu nad ydan ni’n
gallu dweud dim pendant am ddim yn ein ffydd. Aeth fy nghyn fentor academaidd,
Densil Morgan, i’r afael a hwy sbel yn ôl a’u cyhuddo o danseilio egwyddorion
sylfaenol y ffydd. ‘Don’t hold back, Dens,’ meddai fi wrthyf fy hun wrth ei ddarllen.
A wnaeth o ddim chwaith - er yn dipyn o syndod gan fod DDM yntau wedi teithio’n
o sylweddol ers ei ddyddiau cynnar.
Ta waeth. Yn ôl at y botwm. Un
newydd, o’r enw ‘defosiwn’. Ond prin fod y teitl hwnnw yn gwneud cyfiawnder a
chynnwys cyntaf y dudalen, sef clamp o bregeth gan fy hen gyfaill dyddiau
coleg, Owain Llŷr Evans. Pregeth ar yr Ysbryd Glân sydd ganddo a’r pwyslais yw
na allwn ddweud fawr efo sicrwydd digyfaddawd am yr Ysbryd - yn union fel yr
ysgrythur ei hun sy’n gorfod cymharu’r Ysbryd â phethau eraill fel gwynt a thân.
A chynnig dwy gymhariaeth newydd
sbon y mae Owain inni a hynny o fyd gwyddoniaeth. Meistrolgar yn wir. Ewch i’w
darllen drosoch eich hun a chewch fendith.
Os gwnaethoch chi fwynhau darllen, rhannwch gydag eraill drwy rhoi clic ar y bar isod. Diolch.