Cyngor Dewi Sant i Gristnogion Cymru
oedd y dylent wneud y ‘pethau bychain’. Cyngor da? Oedd, siŵr o fod gan fod
gwneud rhywbeth yn well na gwneud dim a bod gwneud llawer o bethau bach yn
gallu arwain at newid mawr. Dyna gymhelliad Pethau Bychain hefyd,
wrth iddynt annog cynifer ag sy’n bosibl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar-lein.
Roedd Dewi, wrth gwrs, yn ffigwr
hynod o radical yn ei ddydd - mynach yn byw bywyd cwbl asgetig a syml a’i unig
nod oedd rhannu’r newydd da am y bywyd yn Iesu. Mae ei ddyddiadau yn cyd-fynd
a’r cyfnod hwnnw mewn hanes pryd y ffurfiwyd Cymru fel cenedl ar wahân (canol y
6ed ganrif) ond serch hynny prin fod unrhyw dystiolaeth yn bodoli i’w osod fel
ffigwr gwlediyddol genedlaetholgar. Erbyn y 10fed ganrif, fodd bynnag, roedd
hynny wedi newid a cheir darlun ohonno yn y gerdd Armes Prydein Vawr fel
arweinydd ei bobl fyddai’n trechu Lloegr: ‘A lluman glân Dewi a ddyrchafant’.
Byth ers hynny daeth y mynach syml yn fwy o symbol gwleidyddol i Gymru na
symbol Cristnogol ac o’i droi yn ffigwr wleidyddol, felly, fe ddad-radicaliwyd
Dewi Sant mewn termau ffydd a chrefydd.
Ac onid dyna hanes y grefydd
Gristnogol byth ers hynny? Daeth mudiadau radical Cristnogol yn sefydliadau
gwan ac ufudd i’r drefn. Penllanw’r datblygiad torcalonnus hwn oedd ymateb yr
enwadau ymneilltuol i’r Rhyfel Byd Cyntaf wrth iddynt hepgor eu heddychiaeth a
dilyn drwm Lloyd George i’r gâd.
Mae’n amser darganfod radicaliaeth
Gristnogol newydd yng Nghymru o’r newydd; un fydd yn herio pob sefydliad
yn ein gwlad ac yn galw Cymru eto i ddilyn gwerthoedd pen-ucha’n-isa Iesu
Grist.