Hunaniaeth hyderus y Cymry?
Chlywais ddim am y dyn cyn darllen Blog Vaughn Roderick ddoe, ond mae’n debyg mai pennaeth Amgueddfa Cymru yw Michael Houlihan. Ond ar ei hôl hi ydw i eto gan fod Mr Houlihan yn ein gadael i fynd am Seland Newydd. Mae’n rhaid ein bod ni wedi pechu’r dyn yn o ddrwg iddo deithio mor bell i weld ein cefn ni!
Ta waeth, cyflwynodd ddadansoddiad diddorol o gyflwr y genedl yn ei araith ymadawol. Gwneud hyn yng nghyd-destun ymdrech y gwleidyddion i farchnata Cymru fel lle i ddod i fuddsoddi a dod ar wyliau ac ati a wna Houlihan a’i bwynt canolog ydyw fod hynny’n digwydd heb gyfeiriad at ddiwylliant unigryw Cymru. Yn wir, mae’n awgrymu nad ydym yn ddigon dewr i wneud hyn a’n bod yn rhy barod i wthio tirwedd y wlad yn hytrach na’i diwylliant. Meddai, ‘The dilemma now facing Wales is whether there is sufficient bravery and leadership to come out from behind the defences and to project this special and different culture of Wales to the world’.
Clamp o gyhuddiad, onide! Ond a ydyw’n gywir? Ni allaf brofi’r peth, ond rhyw dybio ydw i ei fod yn llygaid ei le. Nid oes gennym ddigon o hunanhyder yn ein hunaniaeth Cymraeg na Chymreig. Rydym yn ddigon parod i ymfalchïo yn ein diwylliant oddi fewn i furiau’r gaer - mewn steddfod a chymanfa - ond distaw iawn ydym wedi mentro y tu allan iddi. Ac y mae rhesymau dros hyn, wrth gwrs, sydd i’w wneud efo’n hanes fel pobl sydd wedi’n briwio dros flynyddoedd maith.
Mae hunaniaeth yn bwysig. Mae’n bwysig i’r unigolyn fel gŵyr pob seicolegydd, ond credaf ei fod yn bwysig i’r genedl hefyd. I mi ateb ysbrydol sydd i’r broblem ac y mae addewid Llyfr y Datguddiad am iachâd i’r cenhedloedd yn allweddol. Nid iachawdwriaeth i’r enaid unigol yw swm a sylwedd y ffydd Gristnogol - beth bynnag fyddai’r garfan eglwysig geidwadol am ei ddweud wrthym - ond adferiad y greadigaeth i gyd, gan gynnwys y cenhedloedd.
Ond er imi gredu mai ateb ysbrydol yw’r un allweddol, derbyniaf hefyd fod gan ein harweinyddion gwleidyddol hwythau rhywbeth pwysig i’w ddweud ar y mater hwn. Yma yng Nghymru, yr unig blaid a roddodd unrhyw fath o sylw i Gymru fel cenedl yw Plaid Cymru. A thros y blynyddoedd safodd yn ddigyfaddawd dros y genedl - a hynny heb lwyddiant etholiadol gwerth son amdano. Hynny yw, tan yn ddiweddar. Er mwyn sicrhau’r llwyddiant hwnnw tybed nad ydyw wedi sôn llai am ei gwerthoedd sylfaenol yn y maes ieithyddol a diwylliannol gan geisio ehangu ei hapêl etholiadol? Mae digon o bobl yn sicr yn rhannu’r farn honno.
Ac yn hyn o beth efallai bod y Blaid yn rhyw fath o faromedr enaid Cymru ac yn adlewyrchu ein diffyg hunanhyder cyffredinol. Oherwydd petai’r hunanhyder hwnnw yn ei le, bydda’r Blaid yn gwneud llawer mwy ohono.
Os gwnaethoch chi fwynhau darllen rhannwch ag eraill trwy glicio'r botwm isod. Diolch.
In : Gwleidyddiaeth
Tags: hunaniaeth
blog comments powered by Disqus