Keith Best

July 14, 2010

Mewn ymarferiad drama yn y Gadeirlan ym Mangor oeddwn i pan glywais i’r newydd am Keith Best. Ar y pryd roedd yn aelod seneddol Môn ac yn ffigwr poblogaidd ar yr ynys er gwaethaf y ffaith mai Tori ydoedd. Ond syrthio oddi wrth ras oedd ei hanes a chafodd ei garcharu am brynu mwy na’i siâr o siârs BT.

Bellach mae Best yn gweithio i elusennau dyngarol ac yn gwneud gwaith da - gwell gwaith na bod yn AS o bosibl. Mewn cyfweliad ar Radio Wales dywed ei fod yn dilyn gweithredoedd Iesu - er nad ydyw o bosibl yn derbyn rhai o athrawiaethau canolog y ffydd Gristnogol. Ydi ots am hynny? ‘Dilyn fi,’ oedd galwad Iesu wedi’r cwbl ac nid ‘Creda yn uniongrededd yr eglwys’. Bid a fo am hynny - ymddengys fod Best ar lwybr llawer mwy buddiol y dyddiau hyn.

Petai heb syrthio i’r fagl ariangar ni fyddai wedi gorfod ymddiswyddo o’i sedd a chan nad yw pobl Môn yn or-hoff o newid ASau efallai na fyddai wedi ei cholli mewn etholiad chwaith - yn sicr pan oedd y llanw Torïaid mor uchel yn 1987. A phetai hynny wedi digwydd efallai na fyddai gyrfa Dirprwy Brif Weinidog presennol Cymru ddim wedi cychwyn chwaith. Rhyfedd, bobl. Rhyfedd iawn.

 

'Bradwr!' - y dicter Cymreig.

May 26, 2010

Mae clamp o ffrae yn datblygu rhwng rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a rhai o Gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd. Cau ysgol leiaf y sir yw asgwrn y gynnen - ysgol pentref y Parc ger y Bala - gyda’r Gymdeithas yn dadlau y byddai cau yn gwneud cam â’r iaith yn y pentref, a’r Cyngor o’r farn y byddai adrefnu addysg yr ardal yn sicrhau ei dyfodol. Pwy sy’n gywir? Pwy a ŵyr! Ond tebyg yw iâ...


Continue reading...
 

Yr Urdd, y ddiod gadarn, a'r oes aur gaplegar

March 31, 2010

Rhyw rygnu ymlaen o hyd y mae’r ddadl ynghylch gwerthu alcohol ar faes Eisteddfod yr Urdd. Mwynheais Taro 9 ar S4C echnos ac yn arbennig gyfraniad un person o gyfandir Ewrop drwy Skype. (Ai dyna’r tro cyntaf i hyn ddigwydd ar ein sianel?) Gwnaeth y gŵr hwnnw bwynt hynod ddilys trwy ddadlau fod angen gwarchod pob man ble mae plant yn ymgynnull sy’n ddi-alcohol ar hyn o bryd. Ar yr ochr arall  dadleuodd yr A...


Continue reading...
 

Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain - 4

March 17, 2010

Trof heddiw at y bennod sydd fwyaf anodd i mi ei derbyn yng nghyfrol Viola a Barna, Pagan Christianity, sef yr un ar bregethu. Mae dau reswm am hyn: yn gyntaf, gellid gweld gwerth y bregeth i fywyd ysbrydol y crediniwr trwy gydol hanes yr eglwys. Nid ar chwarae bach mae diystyru gwaith mawr pobl fel Daniel Rowland a Christmas Evans i enwi ond dau gawr Cymraeg. Ac yn ail, rhaid imi gydnabod fod fy hunaniaeth i fy ...


Continue reading...
 

Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain - 3

March 10, 2010

Mae cof da gen i am eistedd mewn sawl pulpud ar hyd y blynyddoedd yn darllen y daflen fechan a osodwyd yn ddestlus ar y ddarllenfa efo ‘trefn y gwasanaeth’ wedi ei deipio ar fy nghyfer i a phob pregethwr arall a arweiniai oedfa yno. Roedd y drefn yn ddigon tebyg bob amser, wrth gwrs, gan gynnwys pedwar emyn, darlleniad, gweddi, a phregeth. Pan oeddwn i'n blentyn ifanc byddwn yn ymuno a fy nhad mewn gwasanaeth...


Continue reading...
 
Custom Search
 
Make a Free Website with Yola.