
Mae gwefan Cymdeithas yr Iaith yn
sgrechian yn o uchel heddiw wrth i bwyllgor annibynnol o ACau alw am gryfhau’r
mesur iaith sydd gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd. Cewch ddarllen adroddiad y
pwyllgor hwnnw yma. Mae’n glamp o ddogfen ac yn glamp o slap i’r Llywodraeth
hefyd, siŵr o fod.
Fydd hyn yn troi’n ffrae arall rhwng
Llafur a Phlaid Cymru ar fater yr iaith tybed? Ac os felly be fydd y canlyniad?
Sbel yn ôl fe gofiwch i grŵp y Blaid ar Gyngor Caerdydd alw am i’r glymblaid yn
y Bae ddod i ben oherwydd penderfyniad Carwyn Jones i beidio a symud ymlaen efo
ysgol Gymraeg arall yn y ddinas. Yn ôl y sôn roedd mawrion y Blaid yn gandryll
ynghylch penderfyniad y Gweinidog Cyntaf a chan fod Prif Weithredwraig y Blaid
yn un o’r cynghorwyr hynny, gallwn fentro credu fod hynny’n wir. Ond doedd yr
arweinwyr etholedig - er eu siom - ddim o’r farn fod penderfyniad ar un ysgol
yn ddigon i danseilio’r Llywodraeth. Doeth iawn, siŵr o fod.
Ond onid ydi’r stêcs ychydig yn uwch
y tro hwn? Nid un ysgol sydd yn y fantol wedi’r cwbl ond mesur allai rhoi
statws cyfreithiol go iawn i’r hen iaith. Siawns nad ydyw mater fel hyn yn galw
am weithredu tipyn cryfach?
Byddai gweld Plaid Cymru yn cilio
oddi wrth alwadau pwyllgor trawsbleidiol am gryfhau’r mesur yn slap i nifer o’i
chefnogwyr yn y gorllewin. Ac mae’r ffaith fod Tori ar y pwyllgor yn dueddol o
roi halen yn y briw. Rhyfedd bobol. Rhyfedd iawn.
Os cawsoch chi flas ar ddarllen cliciwch ar y bar isod er mwyn rhannu'r blog ag eraill. Diolch.