Daeth cyfrol Frank Viola a George Barna, Pagan Christianity, dan lach un o sêr y byd Cristnogol diwygiedig yn ddiweddar a’i gondemnio fel llyfr diwerth oherwydd bod ambell i wall hanesyddol ynddo. Yn ôl ymchwilwyr Mark Driscoll, ‘bugail pregethu’ (os mai dyna’r cyfieithiad cywir am ‘preaching pastor’) Eglwys Mars Hill, nid oes gwerth yn y gyfrol oherwydd y gwallau hyn. Ni chredaf eu bod yn gwneud tegwch a hi ac mae’n fwriad gennyf ateb y cyhuddiad yn fy mlog Saesneg gyda hyn. Ond hoffwn rannu rhai o syniadau Viola a Barna gyda chi fy narllenwyr Cymraeg oherwydd mae yma sawl cwestiwn y dylai’r eglwysi fod yn fodlon eu hateb.

Prif gyhuddiad Viola yn erbyn mwyafrif o eglwysi’r byd gorllewinol yn y ganrif hon yw eu bod wedi cilio oddi wrth eglwys bur y ganrif gyntaf. Eu dymuniad yw gweld yr eglwysi yn dychwelyd at fywyd syml yr eglwys fore a hynny wrth gael gwared a llawer i ymarfer a gasglwyd ganddi ers y dyddiau hynny.

Honna Viola fod tri chyfnod wedi bodoli lle y gwnaed nifer o newidiadau yn yr eglwysi a aeth a hwy ymhellach oddi wrth y symlrwydd cynnar: cyfnod Cystennin, cyfnod y Diwygiad Protestannaidd, a chyfnod yr Adfywiadau Crefyddol yn ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Effaith y newidiadau hyn, meddai Viola, yw creu rhwystr rhwng y crediniwr a’r Duw byw.

Yn y bennod gyntaf meddai, ‘The truth is that precious little that is observed today in contemporary Christianity maps to anything found in the first-century church’ (tud.4). Geiriau cryf. O ble y daw ymarferiadau cyfoes yr eglwys felly? Honiad Viola yw mai elfennau paganaidd ydynt. Hyd at y bedwaredd ganrif paganiaeth oedd prif grefydd yr Ymerodraeth Rufeinig ac er bod yr Ymerawdwr Cystennin wedi dod i arddel Cristnogaeth fel crefydd yr Ymerodraeth yn 312OC cytuna llawer mai canlyniad hyn oedd gweld Cristnogaeth a phaganiaeth yn cymysgu gyda’i gilydd.

Dros yr wythnosau nesaf, felly, gadewch imi rannu gyda chi farn Viola ynglŷn â tharddiad pethau fel y bregeth, y capel, y bugail, a nifer o bethau eraill sy’n rhan annatod bellach o fywyd yr eglwys Gymreig yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae nifer ohonom wedi galw am newid ers degawdau bellach, ond tybed na feddyliodd yr un ohonom fod angen i’r newidiadau fynd mor bell.