Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain - 2
Oes angen hepgor y capel er mwyn adnewyddu’r eglwys? Dyma un cwestiwn pwysig y mae Viola a Barna yn ymgodymu ag o yn Pagan Christianity. Un o nodweddion pensaernïol amlycaf Cymru, wrth gwrs, yw’r capel. Mae gan bob pentref fwy nag un - ac yn aml ceir tri a phedwar, heb son am eglwys y plwyf. Mae’r adeilad ble y cynhelir oedfaon y credinwyr, felly, o bwys mawr i ni’r Cymry fel sawl cenedl arall. Yn eu hail bennod o’r gyfrol mae Viola a Barna yn rhoi sylw manwl i adeiladau eglwysig ac yn herio’r syniad fod angen adeilad pwrpasol o gwbl.
Yn nyddiau'r eglwys fore - hyd at oddeutu’r flwyddyn 150 OC - defnyddio cartrefi’r credinwyr a wnaethpwyd er mwyn ymgynnull. Wrth i aelodaeth eglwys gynyddu aethpwyd ati i addasu’r cartrefi hyn er mwyn sicrhau fod ystafell ddigon sylweddol ar gael. Serch hynny parhau i fod yn gartref yn bennaf yr oedd yr adeiladau hyn - nid cael eu troi i fod adeilad eglwysig pwrpasol. Fodd bynnag, gyda ‘thröedigaeth’ Cystennin i’r ffydd daeth newid sylweddol ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am godi adeiladau eglwysig mawr.
Llun a ffurf baganaidd oedd i’r adeiladau hyn yn ôl Viola. Fel y temlau paganaidd Groeg a Rhufeinig, roedd eu ffasâd yn wynebu’r dwyrain, fel bod yr haul (un o dduwiau pwysig paganiaeth) yn disgyn ar y siaradwr wrth iddo wynebu’r gynulleidfa. Yng nghanol yr adeilad yr oedd yr allor - a oedd yn aml yn flwch lle cedwid crair y saint. O flaen yr allor yr oedd cadair yr esgob - y ‘cathedra’. O’r gadair y byddai’r esgob yn pregethu ac felly roedd grym ac awdurdod neilltuol yn perthyn i hon. Byddai’r henuriaid a’r diaconiaid yn eistedd mewn hanner cylch bob yn ochr i’r gadair, gan ddod a hierarchaeth i ganol yr eglwys. Diddorol yw nodi fod gan bob capel ei sêt fawr ac yn amlach na pheidio fod seddau unigol (yn aml cadeiriau eisteddfodol) oddi fewn i’r sedd fawr yn wynebu’r gynulleidfa, a chedwir y seddau hyn ar gyfer y gweinidog neu’r pregethwr, gyda swyddogion y capel o’i amgylch.
Datblygodd yr adeiladau hyn yn raddol yn ystod y canoloesoedd a daeth y meindwr i ffasiwn mewn gwahanol ffurf. Yn ôl Viola cefndir paganaidd sydd i’r meindwr hefyd wrth i benseiri Bysantiwm fenthyg oddi wrth y traddodiad y Babiloniaid a’r Eifftiaid oedd yn adeiladu obelisgau yn dynodi taith dyn tuag at anfarwoldeb. Er bod ymneilltuaeth Gymreig wedi cefnu ar yr arfer hwn nid felly'r Anglicaniaid, wrth gwrs, ac y mae meindwr eglwys y plwyf yn weladwy ar hyd a lled Cymru. Beth bynnag fo’r eglurhad drostynt heddiw, nid oes amheuaeth nad paganaidd yw’r gwraidd.
Gyda dyfodiad y Diwygiad Protestannaidd daeth newid i bensaernïaeth eglwysig. Y newid mwyaf, wrth gwrs, oedd symud yr allor o ganol yr adeilad a dod a’r pulpud yn ei le. Roedd hynny’n adlewyrchu'r newid pwyslais diwinyddol ar werth darllen a phregethu’r Beibl. Dyma nodwedd amlycaf fewnol y capeli Cymreig: y pulpud sydd fwyaf gweledig a bwrdd y cymun oddi tano yn y set fawr. Ond os oedd hyn yn newid sylweddol o’i gymharu ag eglwysi Pabyddol, ni fu newid mewn un agwedd hollbwysig arall - sef safle’r gynulleidfa. Ym mhob traddodiad eglwysig bron o amgylch y byd rhoir y gynulleidfa i eistedd mewn rhesi yn wynebu’r tu blaen - hynny yw, yn wynebu’r llwyfan ble mae’r offeiriad neu’r gweinidog yn arwain yr addoliad. Ar wahân i ganu ambell emyn, goddefol yw swyddogaeth y gynulleidfa ac mae pensaernïaeth yr adeilad yn cadarnhau’r disgwyliad hwn.
A dyma wendid mawr yr adeiladau, yn ôl Viola. Collwyd swyddogaeth weithredol y gynulleidfa. Collwyd y pwyslais Beiblaidd ble roedd pob aelod yn defnyddio’i ddawn oddi fewn i fywyd addoliad yr eglwys. Wrth symud oddi wrth y cartref - lle'r oedd yr ystafell fyw yn rhoi cyfle i bobl eistedd mewn cylch heb neb yn uwch na’r gweddill - i’r adeilad pwrpasol, collwyd y pwyslais diwinyddol allweddol ar offeiriadaeth yr holl saint.
Tags: barna viola paganiaeth capel eglwys cystennin cymru
blog comments powered by Disqus