Showing Tag: "viola" (Show all posts)

Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain - 4

Posted by Dyfed on Wednesday, March 17, 2010, In : Cristogaeth Baganaidd 

Trof heddiw at y bennod sydd fwyaf anodd i mi ei derbyn yng nghyfrol Viola a Barna, Pagan Christianity, sef yr un ar bregethu. Mae dau reswm am hyn: yn gyntaf, gellid gweld gwerth y bregeth i fywyd ysbrydol y crediniwr trwy gydol hanes yr eglwys. Nid ar chwarae bach mae diystyru gwaith mawr pobl fel Daniel Rowland a Christmas Evans i enwi ond dau gawr Cymraeg. Ac yn ail, rhaid imi gydnabod fod fy hunaniaeth i fy ...


Continue reading ...
 

Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain - 3

Posted by Dyfed on Wednesday, March 10, 2010, In : Cristogaeth Baganaidd 

Mae cof da gen i am eistedd mewn sawl pulpud ar hyd y blynyddoedd yn darllen y daflen fechan a osodwyd yn ddestlus ar y ddarllenfa efo ‘trefn y gwasanaeth’ wedi ei deipio ar fy nghyfer i a phob pregethwr arall a arweiniai oedfa yno. Roedd y drefn yn ddigon tebyg bob amser, wrth gwrs, gan gynnwys pedwar emyn, darlleniad, gweddi, a phregeth. Pan oeddwn i'n blentyn ifanc byddwn yn ymuno a fy nhad mewn gwasanaeth...


Continue reading ...
 

Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain - 2

Posted by Dyfed on Thursday, February 25, 2010, In : Cristogaeth Baganaidd 

Oes angen hepgor y capel er mwyn adnewyddu’r eglwys? Dyma un cwestiwn pwysig y mae Viola a Barna yn ymgodymu ag o yn Pagan Christianity. Un o nodweddion pensaernïol amlycaf Cymru, wrth gwrs, yw’r capel. Mae gan bob pentref fwy nag un - ac yn aml ceir tri a phedwar, heb son am eglwys y plwyf. Mae’r adeilad ble y cynhelir oedfaon y credinwyr, felly, o bwys mawr i ni’r Cymry fel sawl cenedl arall. Yn eu hai...


Continue reading ...
 

Siapio eglwysi'r unfed ganrif ar hugain

Posted by Dyfed on Wednesday, February 17, 2010, In : Cristogaeth Baganaidd 

Daeth cyfrol Frank Viola a George Barna, Pagan Christianity, dan lach un o sêr y byd Cristnogol diwygiedig yn ddiweddar a’i gondemnio fel llyfr diwerth oherwydd bod ambell i wall hanesyddol ynddo. Yn ôl ymchwilwyr Mark Driscoll, ‘bugail pregethu’ (os mai...


Continue reading ...
 
 
Custom Search
 
Make a Free Website with Yola.