Mae taith pawb ohonom yn wahanol, ond y mae un peth sy’n gyffredin - mae’r dylanwadau hynny fu arnom yn ein plentyndod yn siŵr o gael rhyw effaith ar y teithio, ac yn neilltuol felly os bu briw ar yr enaid. Clywais fy nghyfaill John Treharne yn cymharu’r cyflwr dynol i fêl bowlio lawnt: mae pwysau yn un hanner o’r bêl sydd yn sicrhau ei bod hi bob amser yn gwyro oddi ar ei chwrs. Pechod oedd gan John dan sylw, wrth gwrs, ond mae briwiau’r enaid yn cael effaith ddigon tebyg.

Effaith y briw yw inni wneud penderfyniadau sydd yn ein gwyro oddi wrth unrhyw boen emosiynol. Er enghraifft, os oes a wnelo’r briw a diffyg cariad yn y dyddiau cynnar, bydd person yn siŵr o wneud penderfyniadau sydd yn sicrhau fod eraill yn ei dderbyn a’i garu. Gwyr y seicolegwyr hyn ers blynyddoedd, wrth gwrs, ac erbyn hyn mae’r eglwys yn brysur ddal i fyny - yn enwedig felly oddi fewn i’r mudiad carismatig.

Rhan bwysig o’r daith imi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yw fy mod innau wedi derbyn cryn iachâd trwy’r syniadau newydd hyn. Collodd y bêl ei phwysau unochrog i raddau helaeth. Dim llai na gwyrthiol y bu’r newid - gofynnwch i’m gwraig, Helen. Canlyniad hynny, fodd bynnag, yw fy mod yn amharod bellach i ffitio unrhyw focs y bydd eraill am fy ngosod ynddo. Parod iawn i blygu bob stimiau fyddwn i gynt er mwyn cael fy hun i’r bocs diweddaraf a osodwyd o’m blaen.

Daeth tro ar fyd, a diolch i Dduw am hynny. Ond mae gen i benbleth. Ni chytunaf a ffwndamentaliaeth llawer un sy’n rhannu’r un mudiad carismatig a mi. Gallwn restru yn hir y manylion hynny yr wyf yn anghytuno a hwy - ac efallai yr ysgrifennaf amdanynt yn y blog o bryd i’w gilydd. Digon heddiw yw nodi fy anhapusrwydd cyffredinol.

Pan godaf fy ngolwg dros y muriau sy’n creu’r bocs presennol gwelaf fudiadau megis yr Ailfedyddwyr sy’n llawer mwy apelgar. Mudiadau sy’n gweld gwaith Duw yn adfer creadigaeth gyfan trwy greu nef newydd a daear newydd a phwyslais ar y shalom dwyfol sy’n dod a chyfiawnder llwyr i fyd toredig.

Gwnaf, fe godaf fy ngolwg - a rhydd imi flas teithio.