Dyma fentro i fyd y blogio Cymraeg! Bum yn blogio yn Saesneg ers 18 mis a hynny yn bennaf am mai ar gyfer cynulleidfa Saesneg ei hiaith yr oeddwn am sgwennu. Ond wrth i'r gynulleidfa dyfu'n raddol sylwais fod rhai Cymry Cymraeg yn darllen fy slwadau hefyd a dyna pam y cymerais y cam hwn. Ni fyddaf yn blogio'n Gymraeg bob dydd fel y blog Saesneg ond gobeithio y bydd digon yma i'ch ysgogi i feddwl a chyfrannu at y sgwrs.
Os am adael sylw cliciwch ar deitl unrhyw flogiad a daw y bocs perthnasol i'r golwg.