Treuliais bedair blynedd fel warden un o neuaddau preswyl Prifysgol Bangor a chefais y cyfle i ddysgu ychydig yn yr Ysgol Ddiwinyddol hefyd (honno sydd ar fin cau). Yn ystod y cyfnod byr hwnnw aeth tua 500 o oedolion ieuanc trwy fy nwylo a’m gobaith ar gychwyn y gwaith oedd y cawn ryw fath o ddylanwad arnynt.

Braf oedd darllen yr hanesyn hwn, felly, ar wefan y BBC. Daeth David Morris yn fyfyriwr diwinyddol ym Mangor pan oeddwn ar fy mlwyddyn gyntaf yn y gwaith. Roedd yn fwriad ganddo o’r cychwyn fynd i’r weinidogaeth lawn amser gyda’r Eglwys yng Nghymru, felly ni allaf gymryd dim credyd yn hyn o beth. Ond gwelais ynddo botensial fel arweinydd ei gyfoedion a llwyddais i’w berswadio i fod yn ‘fyfyriwr hŷn’ Neuadd Rathbone yn ystod ei ail flwyddyn yno. Ni’m siomwyd, canys yr oedd dawn arweinydd a bugail ganddo a gwnaeth ei waith yn rhagorol.

Cawsom ambell i sgwrs am ei gynlluniau gweinidogaethol ac o bosibl imi allu dylanwadu rhyw ychydig arno yn y cyfeiriad hwn hefyd - ar wahân i un peth, hynny yw. Uchel-eglwyswr rhonc yw David - yn wir mae mor Eingl-Gatholig ag y gellid bod o fewn ei enwad. Ni chafodd ei athro efengylaidd-garismatig, felly, ddim dylanwad o gwbl arno yn y maes arbennig hwn!

Dymuniadau gorau iddo wrth iddo gychwyn ar ei yrfa ym Merthyr. Nid oes amheuaeth nag y gwnaiff fugail da i’w bobl.